Skip to content

Amdanom Ni

Hanes Siop y Pentan 

Sefydlwyd Siop y Pentan gan dri phartner yn 1972. Rydym yn dathlu 50 o flynyddoedd blwyddyn yma yn 2022. 

Mae nawr gan Siop y Pentan dwy siop, un wedi'u leoli yn Farchnad Caerfyrddin a'r siop newydd wedi agor ar Stryd Cowell yng nghanol tref Llanelli 

Busnes Teuluol

Rydym yn fusnes teuluol a sefydlwyd dros ddeugain mlynedd yn ol, ac gwerthu pob math o nwyddau Cymraeg a Chymreig yn cynnwys llyfrau, cryno-ddisgiau, anrhegion o bob-math, dillad, a chrefftau lleol.

Mae gan bopeth yma gysylltiad unigryw i Gymru; boed iaith, llenyddiaeth, diwylliant, y celfyddydau, neu crefftau arbenigol. Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y siop!

Ein nod

Fel cwmni Cymraeg sydd yn gwerthu popeth sy'n gysylltiedig a Chymru, 'rydym yn teimlo'n gryf yn ein dyletswydd i gefnogi iaith a diwylliant ein mamwlad. Mae'r rhan helaeth o'n cynnyrch yn deillio o grefftwyr a busnesau lleol-a hefyd led-led Cymru.

Digwyddiadau

Fel siop Gymraeg leol yn yr ardal, 'rydym yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau i hybu llenydiaeth a cherddoriaeth Gymraeg - unai drwy wahodd yr awdur-neu artistiaid i'r siop - i lofnodi copiau o'i gwaith, neu drwy gynnal noson ble fydd yr awdur yn lansio llyfr newydd - ac yna cael gwrando hefyd ar gerddoriaeth fyw gan artist sydd newydd ryddhau CD. Mae hyn hefyd yn gyfle i'r gynnulleidfa i holi cwestiynnau i'r awdur am ddeunydd y llyfr a dod i adnabod yr awdur. Cysylltwch gyda ni os ydych am drefnu noson o'r fath.

Rydym yn cydweithio gydag ysgolion lleol, ac yn cyflenwi ysgolion cynradd ac uwchradd ein sir a  phellach - gydag adnoddau addysg a llyfrau i ddisgyblion, ac wrth ein boddau yn cael gosod stondin yn ei ffeiriau Haf a Nadolig pan ddaw'r cyfle

Yr Atom

Mae cysylltiad agos gyda ni à sefydliadau addysg a mentrau iaith y Sir, ac mae canolfan Yr Atom yng Nghaerfyrddin yn gwneud llawer o waith arbennig yn hyrwyddo'r Gymraeg, ac yn rhoi cyfle i ni gydweithio gyda nhw pan yn cynnal digwyddiadau amrywiol.

Rydym wrth ein bodd hefyd pan fydd dysgwyr yr iaith yn mynychu'r siop, nid yn unig i brynu llyfr-ond hefyd i ymarfer siarad a sgwrsio yn y Gymraeg gyda staff y siop

Yr Egin

Safle newydd S4C Gorllewin Cymru. Canolfan arbennig sydd hefyd yn cynnal digwyddiadau gydol y flwyddyn i hybu iaith a diwylliant Cymru ac yn rhoi cyfle i dalentau amrywiol i arddangos eu galluoedd i'r cyfryngau Cymraeg

https://yregin.cymru 

Canolfan Peniarth

'Rydym yn gweithio yn agos gyda Canolfan Peniarth. Un o'r prif gyhoeddwyr llyfrau ac adnoddau addysg Cymraeg a dwyieithog yng Nghymru. Fe ddaeth llond siop o blant i mewn gyda Mererid Hopwood a Tudur Dylan Jones, er mwyn lansio cyfres Dysgu Newydd yn y farchnad.

https://peniarth.cymru

Gwyl Canol Dre

Mae gan Siop y Pentan stondin yng Ngwyl Canol Dre bob blwyddyn ers cychwyn yr Wyl. Dyma Wyl lleol a drefnir gan Menter iaith Gorllewin Sir Gâr. Mae’r gwyl yn rhoi cyfle i fusnesau lleol, artistiad, ac awduron led-led y wlad i arddangos ei talentau i'r gymuned.